Amdanom Ni

Mae Griffilms yn gyflenwr cyfryngau aml wobrwyol, yn arbenigo mewn byd animeiddio sy’n datblygu’n gyson. Mae’r cwmni wedi adeiladu portffolio eang ac amryddawn o waith yn y DU ac yn fyd eang. Yn ogystal â gweithio gyda cyd-gynhyrchwyr, arianwyr, darlledwyr a dosbarthwyr ar eu cynyrchiadau teledu a ffilm animeiddiedig, mewn byd cydgyfeiriol, mae Griffilms hefyd yn datblygu gwefannau, gemau a thechnoleg symudol.

Gyda chynnwys creadigol o safon uchel mewn byd cyfryngol sy’n newid o ddydd i ddydd, mae Griffilms yn cyflenwi animeiddio i gynulleidfa amrywiol. Yn arbenigwyr mewn animeiddio 2D a 3D, maent yn dal yn driw i’r hanfodion craidd o syniad da wedi ei ategu gan stori dda.